2014 Rhif 1858 (Cy. 192)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2075/2005 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig. Maent hefyd yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 218/2014 sy’n diwygio Atodiadau i Reoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005, sy’n dileu’r gofyniad am farc iechyd arbennig a’r cyfyngiad i’r farchnad genedlaethol ar gyfer cig anifeiliaid sydd wedi eu lladd mewn argyfwng. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliadau (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau a brasterau hylifol dros y môr.

2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 218/2014 drwy ddiwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 er mwyn dirymu rheoliad 32A (marc iechyd arbennig) ac Atodlen 6A (y marc iechyd arbennig) (rheoliad 2(2) a (5)).

3. Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014 drwy ddiwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 fel bod y diffiniad o Reoliad 2075/2005 yn Atodlen 1 yn cynnwys y diwygiadau a wnaed i’w erthyglau gan Reoliad 216/2014 (rheoliad 2(3)).

4. Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 drwy ddiwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 fel bod y cyfeiriad at yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC (rhestr o gargoau blaenorol derbyniol) ym mharagraff 2(2) o Atodlen 3 yn cael ei amnewid gan yr Atodiad i Reoliad EU 579/2014 (rheoliad 2(4)).

5. Ystyriwyd  Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.


2014 Rhif 1858 (Cy. 192)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                           14 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Gorffennaf

Yn dod i rym                              8 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) ac Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd([2]).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn


gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([3]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006([4]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2) Mae rheoliad 32A (marc iechyd arbennig) wedi ei ddirymu.

(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth EU), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), rhodder—

ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig fel y’i diwygiwyd ddiwethaf mewn cysylltiad â’i erthyglau gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014”([5]).

(4) Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr), yn lle “Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014”([6]).

(5) Mae Atodlen 6A (y marc iechyd arbennig) wedi ei dirymu.

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeihasol, un o Weinidogion Cymru

14 Gorffennaf 2014



([1])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) (“Deddf 2006”) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf 2006 ac mae wedi ei ddiwygio gan adran 3(3) o Ddeddf 2008 a’r Atodlen iddi a chan erthygl 3 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388).

([2])           O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

([3])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar  (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

([4])           O.S. 2006/31 (Cy.5) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1534 (Cy.151), O.S. 2007/373 (Cy.33), O.S. 2010/893 (Cy.92), O.S. 2012/975 (Cy.129) ac O.S. 2012/1765 (Cy.225).

([5])           Mae’r prif offeryn wedi ei gyhoeddi yn OJ L 338, 22.12.2005, t.60 a’r offeryn diwygio yn OJ L 69, 08.03.2014, t.85.

([6])           OJ L 160, 29.05.2014, t.14-20.